Bibliography

Owen, Ann Parry, Geirfâu’r Fflyd, 1632-1633: casgliad John Jones, Gellilyfdy o eiriau’r cartref, crefftau, amaeth a byd natur, Aberystwyth: University of Wales Press, 2023.

  • Book/Monograph
Citation details
Contributors
Work
Geirfâu’r Fflyd, 1632-1633: casgliad John Jones, Gellilyfdy o eiriau’r cartref, crefftau, amaeth a byd natur
Place
Aberystwyth
Publisher
University of Wales Press
Year
2023
Description
Description
Published as printed book and e-book.
Abstract (cited)

Mae John Jones, Gellilyfdy, sir y Fflint (c.1580–1658) yn enwog fel ysgrifydd medrus a dibynadwy a gopïodd nifer helaeth o destunau canoloesol, mewn llaw galigraffig hardd. Mae ei gopïau o farddoniaeth a rhyddiaith ganoloesol yn arbennig o werthfawr i’r ysgolhaig Cymraeg, gan nad yw ei ffynonellau’n aml wedi goroesi. Ond nid copïwr yn unig oedd John Jones. Pan oedd yng ngharchar y Fflyd yn Llundain yn ystod y 1630au cynnar, cynhyrchodd restrau o dros 7,000 o eiriau wedi eu trefnu’n thematig dan 130 o benawdau, gan eu cofnodi’n daclus mewn tair llawysgrif. Mae’r geirfâu hyn, a gyhoeddir yma am y tro cyntaf, yn cynnwys geiriau am sawl agwedd ar fywyd bob dydd: y tŷ a’i gynnwys; crefftwyr traddodiadol a’u hoffer; dyn, ei gorff a’i afiechydon, a’r gemau a’r chwaraeon a’i difyrrai; a byd natur, gan gynnwys rhestrau maith o enwau coed, llysiau, pysgod ac adar. Rhydd y geirfâu gipolwg gwerthfawr i ni ar fywyd ac iaith gŵr bonheddig o sir y Fflint ar ddechrau’r ail ganrif ar bymtheg, yn ogystal ag ychwanegu’n fawr at eirfa Gymraeg hysbys y cyfnod.

Subjects and topics
Sources
Manuscripts
History, society and culture
Agents
John Jones [of Gellilyfdy]Jones (John) ... of Gellilyfdy
(1570s–1658?)
Welsh calligrapher and transcriber of Welsh manuscripts
See more
Contributors
Dennis Groenewegen
Page created
July 2023